Huey Long | |
---|---|
Y Seneddwr Huey Long yn siarad (c. 1933–35) | |
Ganwyd | Huey Pierce Long, Jr. 30 Awst 1893 Winnfield |
Bu farw | 10 Medi 1935 o anaf balistig Baton Rouge |
Man preswyl | Huey P. Long House |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Alma mater | |
Galwedigaeth | gwleidydd, cyfreithiwr, gwerthwr teithiol |
Swydd | Governor of Louisiana, Seneddwr yr Unol Daleithiau, Seneddwr yr Unol Daleithiau, Seneddwr yr Unol Daleithiau |
Plaid Wleidyddol | plaid Ddemocrataidd |
Priod | Rose McConnell Long |
Plant | Russell B. Long |
llofnod | |
Gwleidydd o'r Unol Daleithiau oedd Huey Pierce Long (30 Awst 1893 – 10 Medi 1935) a fu'n Llywodraethwr Louisiana o 1928 i 1932 ac yn aelod o Senedd yr Unol Daleithiau o 1932 nes iddo gael ei lofruddio yn 1935. Roedd yn ffigur hynod o ddadleuol, yn boblydd tanbaid a gafodd ei ystyried yn ddemagog gan rai.[1]
Ganed ger Winnfield, Louisiana. Astudiodd y gyfraith a chafodd ei ethol i gomisiwn rheilffyrdd Louisiana yn 25 oed. Ymgyrchodd yn etholiad y llywodraethwr yn gyntaf yn 1924, ac yn 1928 cafodd ei ethol i'r swydd honno yn aelod o'r Blaid Ddemocrataidd. Er iddo adael llywodraeth Louisiana yn 1932 i gynrychioli'r dalaith yn Washington, D.C., fe benododd ei olynwyr er mwyn iddo allu rheoli Louisiana, fel unben bron. Saethwyd Long yn farw gan feddyg o'r enw Carl Weiss yn Senedd-dy Taleithiol Louisiana yn Baton Rouge.